Cyflwyniad

Rhif y ddeiseb: P-05-946

Teitl y ddeiseb: Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Brenhinol Morgannwg

Testun y ddeiseb: Mae pryderon difrifol y bydd adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cau, neu’n cau’n rhannol, cyn bo hir. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fynediad cleifion yn Rhondda Cynon Taf at adran Damweiniau ac Achosion Brys, a bydd hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym Merthyr Tudful, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr. Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud popeth yn ei gallu i atal unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth o ran darpariaeth gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwneud popeth yn ei gallu i hwyluso'r broses o recriwtio a phenodi ymgynghorwyr Damweiniau ac Achosion Brys ar y bwrdd iechyd.

Cefndir

Yn 2014, gwnaed cytundeb i ganoli gofal damweiniau ac achosion brys mewn llai o ysbytai yn ne Cymru. Cytunodd Byrddau Iechyd fod cyfluniad cyfredol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn fregus o ran eu gallu i ddarparu modelau gofal diogel a chynaliadwy ac o ran yr anawsterau recriwtio meddygol sy'n effeithio ar y gwasanaethau hyn. Prif argymhelliad Rhaglen De Cymru y GIG oedd y dylai gwasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o fewn cwmpas y rhaglen gael eu cryfhau yn y dyfodol a’u darparu o bum ysbyty yn y rhanbarth:

§  Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd;

§  Ysbyty Treforys, Abertawe;

§  Ysbyty Prifysgol y Faenor, Cwmbrân;

§  Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful; a

§  Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

Canlyniad allweddol i hyn oedd gostyngiad yn y gwasanaethau a ddarperir dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol. Roedd yr argymhelliad i ddarparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys  24-awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol mewn llai o ysbytai yn golygu troi’r gwasanaeth hwnnw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn uned mân anafiadau dan arweiniad nyrs.

Fodd bynnag, mae'r argymhelliad heb gael ei weithredu eto. Mae’n chwe blynedd bellach ers cytuno ar yr argymhelliad, ac mae cyd-destun yr argymhelliad penodol hwnnw, fel y’i gwnaed yn Rhaglen De Cymru, wedi newid. Mae’r newidiadau yn cynnwys ffiniau newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Yn dilyn argymhellion a wnaed mewn nifer o adroddiadau diweddar (gan gynnwys Adroddiad Ymweliad wedi'i Dargedu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru mis Tachwedd 2019 ac adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru/Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o drefniadau llywodraethu ansawdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg), penderfynodd y Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2019 fod angen iddo ailystyried yr argymhellion yn Rhaglen De Cymru a bwrw ymlaen â nhw.

Ym mis Tachwedd 2019, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg brosiect i ystyried sut y gallai fwrw ymlaen â'r argymhellion a wnaed gan Raglen De Cymru – gyda'r nod o ddatblygu modelau gwasanaeth a chytuno arnynt erbyn Gwanwyn 2020, gan ddechrau eu gweithredu ym mis Medi 2020. Llywiwyd gwaith cychwynnol y prosiect gan weithdy i arweinwyr clinigol ledled y Bwrdd Iechyd a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2019.

Y sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn parhau i gael eu darparu o dri safle yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg:

§  Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr.

§  Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant; ac

§  Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful.

Fodd bynnag, mae pwysau diweddar ar wasanaethau a staff wedi amlygu’r heriau sy'n wynebu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ym mhapur y Bwrdd ar gyfer ei gyfarfod ar 30 Ionawr 2020, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn nodi “the situation is becoming increasingly unsustainable and safe services cannot be sustained beyond the immediate short term without unacceptable risks to patient safety” (t.104).

Mae papur y Bwrdd yn egluro y bu’n rhaid dargyfeirio ambiwlansys  ym mis Rhagfyr 2019 o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful oherwydd prinder meddygon graddfa ganol. Mae hefyd yn nodi bod lefelau staffio ym mhob un o dair uned damweiniau ac achosion brys Cwm Taf Morgannwg ymhell islaw safonau'r DU. Mae'n gwneud y pwynt bod Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi bod yn ddibynnol ar feddygon adran achosion brys locwm. Ar ben hynny, mae'n nodi y bydd yr unig feddyg ymgynghorol damweiniau ac achosion brys amser llawn yn yr ysbyty yn ymddeol, sy’n golygu y bydd model staffio presennol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd eisoes yn ddibynnol iawn ar staff asiantaeth, yn wynebu mwy o her o fis Ebrill 2020 (gweler tudalen 104). Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24-awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda meddygon ymgynghorol o Ysbyty Tywysoges Cymru yn darparu rhywfaint o gymorth llanw.

Gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: opsiynau ar gyfer dyfodol

Dywed y Bwrdd Iechyd fod pwysau diweddar yn amlygu’r ffaith bod y rhesymeg dros y newidiadau a argymhellir gan Raglen De Cymru yn parhau i fod yn ddilys (t.99) a’u bod wedi mynd yn fwy dybryd.  Mae hefyd yn nodi ei fod yn ystyried ac yn asesu opsiynau eraill, yn ychwanegol at argymhellion penodol, gwreiddiol Rhaglen De Cymru.

Ym Mhapur Bwrdd mis Ionawr y Bwrdd Iechyd, nodir dau opsiwn a ffafrir ar gyfer dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg (gweler tudalen 112). O dan yr opsiwn cyntaf, byddai’r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cau, a byddai uned mân anafiadau 24-awr dan arweiniad nyrs yn ei le. O dan yr ail opsiwn, byddai adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty yn cau dros nos, gan gadw uned mân anafiadau ar agor. Byddai'r ddau opsiwn yn ystyried ffyrdd eraill o weithio er mwyn cynyddu mynediad at ofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol (y tu mewn i oriau a'r tu allan i oriau), a ffyrdd o dderbyn cleifion yn uniongyrchol i wardiau’r ysbyty yn absenoldeb gwasanaeth damweiniau ac achosion brys.

Ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i'r ddeiseb

Ar 11 Chwefror 2020, cyhoeddodd y Bwrdd Iechyd Ddatganiad ar Ysbyty Brenhinol Morgannwggan egluro na wnaethpwyd “unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r datrysiad a’r camau gweithredu gorau”. Dywedodd hefyd: “rydym yn cynnal trafodaethau â’r staff a chymunedau, rydym yn gwrando ar bryderon pobl”.

Ar 27 Chwefror 2020, yn y cyfarfod gydag Aelodau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ailadroddodd yr Athro Marcus Longley, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, y câi pob carreg ei throi yn yr ymdrech i sicrhau bod y system bresennol yn ddiogel ac yn gynaliadwy. Byddai hyn yn golygu recriwtio digon o feddygon brys arbenigol i gynnal gwasanaeth 24-awr dan arweiniad meddyg ymgynghorol, er i'r Athro Longley egluro “we can’t simply recruit our way out of this easily” (paragraff 9). Yn yr un cyfarfod, cyfaddefodd y Bwrdd Iechyd: “the focus at the Royal Glamorgan has been to appoint locum doctors, rather than substantive consultants” (paragraff 71).

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 4 Mawrth 2020, mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn ail-bwysleisio nad oes penderfyniad wedi’i wneud gan y Bwrdd Iechyd ynghylch darpariaeth gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn ysbyty Brenhinol Morgannwg yn y dyfodol. Mae'r Bwrdd Iechyd yn egluro: “we are not simply accepting that the original South Wales Programme recommendation in relation to the Royal Glamorgan Hospital emergency department remains valid”.

Ym Mhapur y Bwrdd ar gyfer mis Chwefror 2020, , mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi manylion am waith y prosiect hyd yn hyn.

Yn ei lythyr, dywed y Prif Weithredwr:

We are following an appropriate and open process, subject to public and political scrutiny, that will result in defined options being brought to the Board for further consideration and, ultimately a formal Board decision on future service delivery. I do not think it would be appropriate for the Welsh Government to intervene in this process.

Ymateb y Llywodraeth

Mewn ymateb i gwestiwn gan Leanne Wood AC yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Chwefror 2020, nododd y Prif Weinidog, Mark Drakeford AC, ei farn mai mater i feddygon, nid gwleidyddion, yw penderfynu ar ddyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg (paragraff 55). Dywedodd y Prif Weinidog fod Rhaglen De Cymru yn cael ei harwain gan feddygon a chlinigwyr yn y gwasanaeth iechyd, ac mai nhw a ddylai benderfynu ynghylch dyfodol y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Chwefror 2020, gofynnodd Leanne Wood AC i Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn cytuno â’r Prif Weinidog – sef mai meddygon a ddylai benderfynu ar ddyfodol yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ymatebodd y Gweinidog drwy ddweud bod y penderfyniad yn fater i’r Bwrdd Iechyd ond ei fod yn disgwyl i’r Bwrdd Iechyd wrando ar y gweithlu meddygol a’r cyhoedd ac ymgysylltu â nhw. Esboniodd y Gweinidog yn ei ymateb fod “meddygaeth frys yn faes ymarfer sy’n brin o staff” (para 122), a thynnodd sylw at yr anawsterau o ran recriwtio digon feddygon ymgynghorol parhaol i ddarparu gwasanaeth diogel - ac nid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn unig, ond ledled Cymru a'r DU.

Yn ystod Dadl y Ceidwadwyr Cymru a ddilynodd, galwodd sawl Aelod Cynulliad, gan gynnwys rhai ar feinciau cefn Llafur, ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd 'er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru'. Gofynnodd yr Aelodau a oedd y prinder staff yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg oherwydd yr ansicrwydd ynghylch ei dyfodol. Gofynasant a yw hi wedi bod yn anodd denu meddygon i weithio yn yr adran oherwydd aneglurder ynghylch ei dyfodol. 

Ar 27 Chwefror 2020, mewn cyfarfod gydag Aelodau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, cydnabu Dr Nick Lyons , Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, fod Rhaglen De Cymru, pan gytunwyd arni yn 2014, wedi gwneud recriwtio yn anoddach (paragraff 66).

Ar 10 Mawrth 2020, mewn ymateb i gwestiwn gan Adam Price AC, nododd y Prif Weinidog na fyddai’n ymyrryd ym mhenderfyniad y Bwrdd Iechyd ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys, gan egluro:

Ceir proses sydd wedi'i chyflwyno'n eglur iawn ac sy'n angenrheidiol yn gyfreithiol a ddilynir fel bod penderfyniad yn cyrraedd ar ddesg un o Weinidogion Cymru. Mae honno'n broses lle mai'r sefydliadau hynny sydd â hawl gyfreithiol i gyfeirio mater at ddesg y Gweinidog yw'r bobl sy'n gorfod gwneud hynny, os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny. Dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw. Bydd yn rhaid i'r bwrdd iechyd wneud ei benderfyniad, ac yna byddai'n rhaid i sefydliad, fel cyngor iechyd cymuned, a all gyfeirio'r mater hwnnw at Weinidog i'w benderfynu, benderfynu gwneud hynny. Dyna sut mae'r broses yn gweithio. Dyna sut y mae'n rhaid i'r broses weithio i fod yn gyfreithiol anatebadwy. A dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw. Efallai na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw, oherwydd mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei atgyfeirio er mwyn i Weinidog wneud penderfyniad. Ond, os bydd yn digwydd, mae gan Weinidogion gyfrifoldebau cyfreithiol. A dyna pam mae wedi bod mor bwysig, yn hynny i gyd, nad yw Gweinidogion yn rhagfarnu sefyllfa lle byddai unrhyw benderfyniad y maen nhw'n ei wneud wedyn yn agored i her.

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi “At this stage, the proposals remain a matter for the health board to determine. However, it is possible that, in line with the guidance, the final decisions may be referred to me for consideration”. Fe ddywed y Gweinidog hefyd:

I am currently unable to comment on any of the proposals, as it may compromise my future role in the process. I do, however, encourage you to engage with the health board and have your say in helping to shape future services. Further information on how you can get involved can be found here: https://cwmtafmorgannwg.wales/proposed-service-changes-at-royal-glamorgan-hospital/